News / Latest News / Premier o ddwy ffilm Gymreig...
Wednesday 15th October 2008
Premier o ddwy ffilm Gymreig gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr John Hardy yn cael eu harddangos yn ystod Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack.
Mi fydd y dangosiad o Abraham’s Point yn cael ei dangos yn Cineworld Caerdydd, Stryd Mary Ann am 6.45 ar Dachwedd y 29ain fel rhan o ŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack. Mi fydd premier Prydeinig o ffilm Delyth Jones, CWCW yn cael ei dangos ar Dachwedd yr 28ain am 3yh.
John Hardy sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y ddwy ffilm. Recordiwyd y gerddoriaeth ar gyfer Abraham’s Point gyda Cherddorfa Philarmonic Dinas Prague.
Ffilm gan Wyndham Price yw Abraham’s Point gyda’r brif ran yn cael ei chwarae gan Mackenzie Crook gyda pherfformiadau gan Harriet Walter, Joseph Milson a Minnie Gale. Mae Mackenzie yn chwarae rhan dyn ifanc, Comet Snape, sy’n dwyn hen gloc tad-cu ac yn mynd ati i’w ddychwelyd at ei daid sy’n marw yng Ngorllewin Cymru. Weithiau’n deimladwy, yn aml yn ddoniol, mae Abraham’s Point yn mynd â Comet ar daith o achubiaeth o strydoedd tywyll Llundain yn ôl at dirlun prydferth Cymru ag at bentref arfordirol ble mae ei rieni dal i fyw. Mewn uchafbwynt ysgytwol, darganfyddwn gyfrinach dywyll sydd wedi effeithio Comet gyhyd.
Stori Jane Jones (Eiry Thomas) yw CWCW - sgript wraig opera sebon o Gaerdydd yn briod a'r actor Sam Llywelyn (Rhys Richards) sy'n chwarae'r brif ran yn y sebon sef Dr Gareth. Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau annioddefol, mae hi'n rhedeg i ffwrdd gyda dieithryn llwyr (Aneirin Hughes) ac yn ail greu ei hun fel rhywun arall mewn pentre’ diarffordd. Er hynny, ni all ddianc oddi wrth ddryswch ei meddwl ei hun na chysgod y gorffennol yn enwedig pan ddaw doctor newydd i'r pentre!